Newydd sbon gan Ddalen Newydd
Ned a Gân Enaid y Gerdd. Detholiad o Gerddi Edward Moris , golygwyd gan Ffion Mair Jones. £15.00 ‘Ned a gân enaid y gerdd’, meddai cyfoeswr am Edward Moris (un r bellach, fel yn wreiddiol), y ffermwr a’r porthmon o’r Perthillwydion yn Uwchaled. Yn un o feirdd Cymraeg galluocaf yr ail ganrif ar bymtheg, fe saif rhwng dau fyd. Canodd ddigon, yn null traddodiadol Beirdd yr Uchelwyr, o gywyddau mawl, marwnad, gofyn a chyfarch. Yn yr eithaf arall, gallai droi ei law a







