Yn Newydd gan Ddalen Newydd
Elis y Cowper: Anterliwt y Ddau Gyfamod
Golygwyd gan A. Cynfael Lake
Dyma rif 14 yng nghyfres Cyfrolau Cenedl.
Awdur cynhyrchiol a huawdl oedd Elis Roberts (1713?-89) neu Elis y Cowper o Landdoged, Dyffryn Conwy, ac wele yma anterliwt o’i waith sydd yn un o’r rhai mwyaf hynod o fewn y dosbarth hwn o lenyddiaeth.
Ymddengys y Cybydd a’r Ffŵl fel ym mhob anterliwt, ond y tro hwn ceir llai nag arfer o’r cellwair bras rhwng y ddau gymeriad hyn. Yn lle hynny ceir cyfuniad o ddau ddefnydd gwahanol. Yn gyntaf, rhoir inni dalpiau o hanes Rhyfel Annibyniaeth America – y Ffŵl, meddai ef, wedi bod yn ei ganol! Traethir ar achosion y rhyfel, gan geisio mesur y bai ar y ddwy ochr. A meddylier mewn difrif am gyfraniad yr Hen Wraig o Indiad Coch, sy’n rhoi safbwynt y brodorion yng nghanol y gwrthdaro. Yn ail, ac yn brif beth yr anterliwt, ceir dadl ddiwinyddol ar ‘gwestiwn y Cyfamodau’, mater canolog yn hanes Cristnogaeth. Rhaid bod cynulleidfa a fyddai’n deall beth yw’r Ddau Gyfamod ac yn fodlon sefyll i wrando’r dadlau yn eu cylch.
Dyma gyfle inni ddysgu rhywbeth, ac efallai ofyn rhai cwestiynau, am chwaeth ein cyndadau mewn cyfnod allweddol o’n hanes.
£15. 00
Dafydd Glyn Jones - Hen Ddalennau
Hen Ddalennau
Ysgrifau llenyddol gan Dafydd Glyn Jones
Gan bob sgriblwr mae pentwr o hen ddalennau yn hel dros y blynyddoedd, ac am rai ohonynt gall yr awdur fod yn gofyn ‘pam dweud peth mor hurt?’ a ‘tybed ai fi oedd e?’. Dyma ddetholiad o ddalennau sydd, hyd yma beth bynnag, wedi goroesi’r chwynnu: darlithoedd, erthyglau ac ysgrif-adolygiadau ar amrywiaeth o awduron, gweithiau a chyfnodau yn llên y Cymry. Wele’r cynnwys:
Ystyried Gildas
Ystyried Wade-Evans
Y Bedwaredd Gainc
4 Breuddwyd Moel?
Blas yr Henfyd
Syr Siôn Prys ac Apologia’r Genedl
Côr y Ceidwadwyr
Camp a Rhemp Bardd Mawr Môn,
‘Edward Morgan’, ‘Morganyg’ a ‘Iolo Morgannwyg’
Huw Jones o Langwm
Dim ond Act
Cofio Saunders Lewis yr un Pryd
Hwyl a Helynt Hen Eisteddfodau Môn
Tri Llenor rhwng y Ddwywlad
Troedio’r Ffiniau
Caradog Prichard
Pedwar Modernydd
Pennod Ryfedd a Thrwstan
Glyndebourne y Cymry, ynteu Tŷ Uchelwr Drama?
Deg Cwestiwn i Ddramodydd
Hanes ein Llên drwy Wydrau Newydd
£15.00 am y lot.
ความคิดเห็น