top of page

Yn newydd gan Ddalen Newydd

CYFROLAU CENEDL 13 Galw’n Ôl

Deuddeg Bardd o Ddechrau’r Ugeinfed Ganrif

‘N’ad fi’n Ango’ oedd enw’r gyfrol hon i fod, ond pan oedd mewn proflenni dyma glywed fod cyfrol arall o’r un enw newydd ymddangos! Galw’n Ôl felly, ond cadw llun y blodyn glas ar y clawr. Detholiad newydd sydd yma o waith beirdd a ganai dros drothwy’r ugeinfed ganrif ac i mewn i’w hanner cyntaf: Alafon, Bryfdir, Dyfnallt, Elphin, Gwili, James Evans, J.J. Williams, J.T. Job, Llew Tegid, Moelwyn, Sarnicol, Tryfanwy. Yn eu dydd yr oeddynt yn feirdd ac yn ffigurau adnabyddus. Aethant braidd allan o gof, yn rhannol am iddynt gydoesi â beirdd mwy arloiesol o genhedlaeth ychydig yn iau. Beth am gael golwg arnynt eto? £15.00 EICH PEDWAR HEN LYFR BACH NEWYDD Rhif 13

Bully, Taffy, a Paddy a Gweithiau Eraill gan Emrys ap Iwan

Cyhoeddwyd ymddiddan ‘Bully, Taffy a Paddy’ ym 1880. Bellach, gydag amgylchiadau Paddy wedi newid yn sylfaenol, a Taffy’n dal yn yr un twll, diau y tâl inni ei darllen a’i hystyried eto. I’w ddilyn yn y detholiad bach hwn rhoddir rhagor o ddarnau gan Emrys ap Iwan ar wleidyddiaeth, diwylliant, iaith ac arddull, ac i gloi rhoddir yr homili gyfan ‘Pwy yw fy Nghymydog?’ sy’n cynnig cyd-destun eang i weld ei safbwyntiau, ac o bosib i osgoi camddeall arno. £5.00 Rhif 14 Dafydd Ddu Eryri


Hyd yn oed os ydym yn cofio Dafydd Ddu Eryri heddiw fel ysgogwr ac athro ar gwmni o feirdd yn Arfon, Eifionydd a Môn (‘Cywion Dafydd Ddu’), ac fel ceidwad di-ildio safonau clasurwyr y ddeunawfed ganrif, ychydig a gofiwn am ei farddoniaerth ef ei hun, yn wir ychydig a welwn ohoni. Efallai y bydd y detholiad bach hwn yn agoriad llygad. Gallwn wfftio at ei safbwyntiau adweithiol ac edmygu ei ddawn fel mydryddwr yr un pryd. Rhown yma hefyd ychydig ddarnau o’i ohebiaeth, sy’n dangos y beirniad llym a’r cymeriad croendenau.

£15.00


Rhif 15


John Morris-Jones:

Dwy Awdl a Rhai Caniadau


Arbenigrwydd dwy awdl Syr John Morris-Jones, ‘Cymru Fu: Cymru Fydd’ a ‘Salm i Famon’ yw eu cyfansoddi nid ar gyfer unrhyw gystadleuaeth ond ar gymhelliad y galon, i ymarfer y grefft ac i leisio teimladau bardd ifanc mewn cyfnod a oedd yn llawn addewid am ddeffroad ym mywyd Cymru. Pa mor ddilys oedd yr addewid hwnnw? Sut y bu iddo droi’n siom? A pha bethau ynddo sy’n berthnasol o hyd? Buom yn gofyn y cwestiynau hyn ers canmlwydd, ac i’w gofyn yn iawn da yw gweld y ddwy awdl eto. Dyma hwy mewn print am y tro cyntaf ers 1907, ac yn gwmni iddynt dyma ddetholiad bach o delynegion Morris-Jones.

£5.00


A chofiwch am

Yr Hen Lyfrau Bach

Pecyn 4

Yr uchod gyda’i gilydd am £15.00 yn lle £20.00

Featured Posts
Check back soon
Once posts are published, you’ll see them here.
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page