top of page

Newydd sbon gan Ddalen Newydd

  • Mar 4
  • 2 min read

Ned a Gân Enaid y Gerdd. Detholiad o Gerddi Edward Moris, golygwyd gan Ffion Mair Jones.  £15.00         

 

‘Ned a gân enaid y gerdd’, meddai cyfoeswr am Edward Moris (un r bellach, fel yn wreiddiol), y ffermwr a’r porthmon o’r Perthillwydion yn Uwchaled. Yn un o feirdd Cymraeg galluocaf yr ail ganrif ar bymtheg, fe saif rhwng dau fyd. Canodd ddigon, yn null traddodiadol Beirdd yr Uchelwyr, o gywyddau mawl, marwnad, gofyn a chyfarch. Yn yr eithaf arall, gallai droi ei law at benillion rhydd. Rhwng y ddeupen, yr oedd yn arloeswr ac yn feistr ar y ‘canu caeth rhydd’ neu’r ‘canu carolaidd’ fel y gelwir ef. Boed hi’n archebu gwn i saethu brain neu’n ddiolch am nodded i’r iaith Gymraeg,  gwelwn yr un adnoddau ar waith. Mae’n llais i’w oes, ac i brofiadau oesol hefyd, a’i gywydd lle mae’r ‘Prydydd yn Ymliw â’i Awen’ yn un o gerddi pwysicaf yr iaith fel mynegiant o ymdeimlad diwylliannol. A phetai ar y Talwrn, faint o farciau am ei gywydd ‘wyneb a gwrthwyneb’? Yn 1904 y cyhoeddwyd ddiwethaf gasgliad o’i waith. Yn y detholiad a’r golygiad hwn dyma gyfle i genhedlaeth newydd ddod i’w adnabod.

 

 

Beirniad Llym Gynddeiriog. Ysgrifau a Cherddi Elphin, golygwyd gan Ann Rhian Hughes. £15.00

 

‘Elphin y dramodwr enwog / Sydd yn feirniad llym gynddeiriog’ medd cyfoeswr am Robert Arthur Griffith, ‘Elphin’ (1860-1936), un o feibion Caernarfon.  A gwir y gair. Mae tri chyfrwng i’w feirniadaeth ‘gynddeiriog’, sef ysgrifau, cerddi  a drama. Yn y gyfrol hon dyma ddetholiad o blith y ddau gyntaf, ynghyd â rhagymadrodd cynhwysfawr sy’n gosod Elphin yn ei gyfnod a’i gefndir.  Yn annisgwyl efallai mewn bargyfreithiwr a barnwr, yr oedd yn ŵr o safbwyntiau eithriadol flaengar fel radical a chenedlaetholwr; wedi marw Emrys ap Iwan prin yr oedd neb yng Nghymru’r genhedlaeth yn medru ‘ei dweud-hi’ mor gyrhaeddgar a didderbyn-wyneb. Ymhlith gwrthrychau ei ddychan y mae gwleidyddiaeth, crefydd, barddoniaeth, eilunod y Cymry, bywyd Cymru’n gyffredinol, imperialaeth Brydeinig a rhagrith llywodraethau. Weithiau mae’n ddychanwr a thynnwr coes, dro arall yn broffwyd difrif a thaer, nid amherthnasol i’n dyddiau ninnau. Gall y darllenydd gael ei daro gan y gwahaniaeth rhwng, ar y naill law, y radicaliaeth gadarnhaol sydd yn ei ysgrifau, ac ar y llall y meddyliau tywyll yn rhai o’i gerddi.  Ardderchog o beth yw i genhedlaeth newydd wybod am ei waith.

 

 

 

Tylwythau Llên gan Dafydd Glyn Jones. £15.00  

 

Mewn llenyddiaeth fel ym mhob celfyddyd ac yn wir drwy natur oll, mae tylwythau. Mae inni’r dewis o ddynodi tylwyth llenyddol yn ôl ffurf – nofel, englyn, drama, stori fer, cywydd &c &c, neu ynteu yn ôl cynnwys a thema, y pethau y mae gwahanol weithiau yn eu dweud amdanom ac am fywyd yn gyffredinol: dyna inni drasiedi, comedi, dychan, ffars, rhamant &c &c. Yn ysgrifau’r gyfrol hon arferir tipyn ar y ddau ddull, a hefyd trafodir ychydig ar yr egwyddor a’r arferiad o gymryd llenyddiaeth fesul math, dosbarth, modd neu beth bynnag y’i gelwir. Mae ‘pwy sy’n perthyn?’ yn gwestiwn o ddiddordeb bob amser.

 
 
 

Comments


Featured Posts
Check back soon
Once posts are published, you’ll see them here.
Recent Posts
Archive
Search By Tags
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square

© 2015 gan ELIDIR JONES. Wedi ei greu drwy Wix.com

bottom of page